Namaan

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig, sy’n cael ei enwi yn y Testament Newydd. Roedd yn brif swyddog milwrol brenin Syria (oedd yn elyn i Israel). Cafodd Naaman wybod ei fod yn dioddef o afiechyd ar y croen – y gwahanglwyf. Clywodd gwraig Naaman (gan ei morwyn, oedd yn gaethferch o Israel) y gallai’r proffwyd Eliseus iacháu’r afiechyd. Felly anfonodd brenin Syria Naaman i Israel gyda llawer o anrhegion er mwyn dangos ewyllys da. Cafodd ei anfon yn y diwedd at Eliseus, ond doedd o ddim yn hapus gyda’r croeso na’r cyngor gafodd e – i ymolchi yn yr afon Iorddonen saith gwaith. Ond yn y diwedd cafodd Naaman ei berswadio gan ei weision i wneud beth oedd Eliseus wedi ei ddweud – a chafodd ei iacháu.
(gweler 2 Brenhinoedd 5:1-27; Luc 4:27)