Nasareth

• Tref yn ardal Galilea.
• Does dim sôn am Nasareth yn yr Hen Destament.
• Mae Nasareth mewn dyffryn uchel ynghanol bryniau calchfaen. Mae gwaelod y dyffryn tua 1,200 troedfedd uwch lefel y môr. I’r de mae’r tir yn disgyn yn sydyn i wastadedd Esdraelon.
• Mae i’r ardal hinsawdd gynnes, ac mae llawer o flodau a ffrwythau yn tyfu yno.
• Yn amser y Testament Newydd roedd y dref yn agos at lawer o lwybrau masnach pwysig. Roedd pobl Nasareth felly yn cymysgu hefo pobl o bob cefndir oedd yn teithio ar hyd y ffyrdd yma. Doedd pobl Nasareth ddim yn boblogaidd gyda gweddill yr Iddewon. Erbyn y ganrif gyntaf, roedd yr enw Nasaread (person sy’n dod o Nasareth) fel enw cas ar berson - rhywun roeddech chi’n edrych i lawr arnyn nhw. Un rheswm am hyn oedd y ffaith bod pobl Nasareth yn cymysgu gyda masnachwyr oedd yn genedl-ddynion (pobl oedd ddim yn Iddewon).
• Roedd teulu Iesu yn byw yn Nasareth. Dyna lle treuliodd Iesu ei blentynod. Mae’r Testament Newydd yn dweud bob pobl yn synnu bod y Meseia yn dod o Nasareth o bobman!
• Mae rhai arbenigwyr yn meddwl bod Nasareth cyfnod Iesu yn uwch i fyny’r bryn na’r dref fodern. Mae yna hen feddau wedi eu torri yn y creigiau wedi eu darganfod yno.
(gweler Mathew 2:23; 4:13; 13:54; 21:11; 26:71; Marc 1:9, 24; 6:1; 10:47; 16:6; Luc 1:26; 2:4, 39, 51; 4:16, 34; 18:37; 24:19; Ioan 1:45,46; 18:5,7; 19:19; Actau 2:22; 3:6; 4:10; 6:14; 10:38; 22:9; 26:9)