Nicodemus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Efengyl Ioan yn unig sy’n ei enwi, ac yn ei ddisgrifio fel Pharisead ac aelod o’r Sanhedrin ddaeth at Iesu wedi iddi dywyllu. Roedd wedi ei ddenu gan gymeriad a dysgeidiaeth Iesu, ond efallai ei fod yn ofni i’r Phariseaid eraill ddod i wybod am ei ddiddordeb. Dangosodd ei fod yn cael trafferth i ddeall geiriau Iesu am ail enedigaeth.
Mae sôn yn nes ymlaen yn Efengyl Ioan am Nocodemus yn sefyll i fyny yn ddewr i brotestio yn erbyn condemnio Iesu heb gynnal achos llys. Yna wedi marwolaeth Iesu, prynodd beraroglau i eneinio’r corff. Mae llawer o draddodiadau eraill amdano, ond dim mwy o ffeithiau.
(gweler Ioan 3:1-10; 7:50; 19:39)