Ninefe

 

• Dinas ar lan afon Tigris yng ngogledd Irac. Mosul ydy enw’r dref fodern sydd wedi ei hadeiladu agosaf at safle Ninefe.
• Mae’r Beibl yn sôn gyntaf am Ninefe yn Genesis 10:11.
• Cafodd Jona ei anfon yno gyda neges oddi wrth Dduw (darllenwch lyfr Jona i gael yr hanes). Yn y cyfnod hwnnw (tua 785 – 775 C.C.) roedd Ninefe yn ddinas fawr gyda llawer o bobl yn byw yno.
• Ninefe oedd prifddinas ymerodraeth Assyria. Dywedodd y proffwydi Nahum a Seffaneia bod y ddinas a’r ymerodraeth yn mynd i gael eu dinistrio yn llwyr. Daeth hyn yn wir yn Awst 612C.C. pan ymosodwyd arni gan y Mediaid, y Babiloniaid a’r Scythiaid.
• Mae llawer o waith ymchwil archeolegol wedi ei wneud yn ardal Mosul ac mae’r hyn sydd wedi ei ddarganfod yn cadarnhau beth mae’r Beibl yn ei ddweud. Tua canol y 19fed ganrif daeth arbenigwyr o hyd i balas Sennacherib, ymosododd ar Jerwsalem tua 701 C.C.. Mae’r hanes i’w weld yn 2 Brenhinoedd pennod 18-19. Roedd tabledi clai ar waliau’r palas yn dweud hanes ymgyrchoedd y brenin, ond yn anffodus mae fandaliaid (a rhyfel) wedi dinistrio llawer o’r olion hanesyddol hyn.
• Roedd y ddinas yn sefyll mewn lle allweddol ar y ffordd rhwng Môr y Canoldir a Chefnfor yr India. Oherwydd yr holl fasnach, daeth yn ddinas gyfoethog iawn.
• Wedi cyfnod y proffwydi does dim cyfeiriad at Ninefe yn y Beibl tan Mathew 12 a Luc 11.
(gweler Mathew 12:41;Luc 11:30, 32)