Patmos

 

• Ynys 35 milltir oddi ar arfordir de orllewin gwlad Twrci yn y Môr Aegeaidd. Roedd yn 8 milltir o hyd, a hyd at 4 milltir o led.
• Mae’n debyg fod yr ynys yn cael ei defnyddio gan y Rhufeiniaid fel lle i gadw pobl yn y carchar. Mae’r ynys bellach yn perthyn i wlad Groeg.
• Roedd yr apostol Ioan yn garcharor yno tua 95 O.C. oherwydd ei waith yn rhannu’r Efengyl Gristnogol. Roedd Ioan ar Ynys Patmos pan gafodd y gweledigaethau sy’n cael eu disgrifio yn llyfr y Datguddiad ar ddiwedd y Testament Newydd.
(gweler Datguddiad 1: 9)