Pedr

 

Simon Pedr neu Simon fab Jona
Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a’r Eglwys Fore. Pedr, y pysgotwr ddaeth yn ddisgybl i Iesu, ac yna yn apostol ac arweinydd yn yr Eglwys Fore.
• Cafodd Pedr ei gyflwyno i Iesu gan ei frawd Andreas. Cafodd y brodyr eu galw gan Iesu i adael y busnes pysgota yng Nghapernaum a’i ddilyn. Roedd Pedr yn gymeriad cryf, yn arweinydd a llefarydd ar ran y 12 disgybl, ac hefyd, gydag Iago ac Ioan yn un o’r tri disgybl agosaf at Iesu.
• Pedr oedd y cyntaf i ddweud mai Iesu oedd y Meseia, ond pan oedd Iesu ar brawf gwadodd Pedr dair gwaith ei fod yn adnabod Iesu. Roedd yn edifar am wneud hynny, a daeth Iesu ato ar ôl yr atgyfodiad a dangos ei fod yn maddau iddo.
• Fel roedd Iesu wedi ei ragweld daeth Pedr yn arweinydd yn yr eglwys gynnar. Pedr oedd y cyntaf i bregethu’r efengyl ar ôl tywalltiad yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost.
• Dyn ni’n gwybod fod Pedr yn briod ac mai enw ei dad oedd Jona neu Ioan
• Roedd yn siarad gydag acen y Gogledd, a’i enw Hebraeg oedd Symeon.
• Fel disgybl, cafodd deitl newydd gan Iesu, sef Kepha (Cephas) y gair Aramaeg am graig (‘petros’ yn y Groeg), a dywedodd Iesu y byddai’n adeiladu’r eglwys ar y graig hon. Felly dechreuodd cael ei alw yn Pedr, neu’n Simon Pedr.
• Er mai Paul sy’n cael ei adnabod fel yr apostol aeth â’r efengyl at bobl oedd ddim yn Iddewon (cenedl-ddynion), Pedr oedd y cyntaf i wneud hynny mewn gwirionedd. Cafodd ei feirniadu am wneud y fath beth. Yn y cyfarfod gafodd ei gynnal yn Jerwsalem i drafod ar ba delerau y dylai Cristnogion oedd ddim yn Iddewon gael eu derbyn i’r eglwys, Pedr ydy’r cyntaf i ddweud mai ffydd sy’n cyfri, nid cadw’r Gyfraith Iddewig.
• Ar ôl marwolaeth Steffan mae’n anodd dilyn hanes Pedr. Cafodd ei garcharu, a’i ryddhau yn wyrthiol o garchar Jerwsalem. Mae Galatiaid 2:11 yn dangos iddo fynd i Antiochia, ac mae’n cael ei gysylltu hefo Rhufain hefyd. Mae traddodiad yn dweud iddo gael ei groeshoelio a’i ben i lawr yn Rhufain yn ystod erledigaethau yr Ymerawdwr Nero tua 64 O.C.
(gweler Mathew 4:18; 8:14; 10:2; 14:28 – 19:27; 26:33-75; Marc 3:16; 5:37; 8:29-11:21; 13:3-14:72; 16:7; Luc 5:8-6:14; 8:45 – 9:33; 12:41; 18:28; 22:8-61; 24:12; Ioan 1:40-44; 6:8,68; 13:6-37; 18:10-27; 20:2-21:21; Actau 1:13 –5:29; 8:14-12:18; 15:7; Galatiaid 2:7-14; 1 Pedr 1:1; 2 Pedr 1:1 hefyd SIMON, CEFFAS)