Peilat

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Pontius Pilatus, Rhufeiniwr.
• Dyn ni ddim yn gwybod llawer amdano cyn y flwyddyn 26 O.C. pan gafodd ei apwyntio gan Tiberiws yr Ymerawdwr fel Rhaglaw ar Jwdea. Aeth yno i fyw, ac aeth ei wraig yno yn gwmni iddo - peth anarferol iawn bryd hynny. Mae’r Testament Newydd yn sôn am ei wraig.
• Fel rhaglaw roedd yn rheoli’r rhanbarth gyda grym y fyddin Rufeinig. Roedd ganddo’r awdurdod i ddedfrydu pobl i farwolaeth. Ef hefyd oedd yn apwyntio’r archoffeiriaid ac yn rheoli’r Deml ac arian y Deml. Roedd ei bencadlys yn nhref Cesarea.
• Wedi cyrraedd Jwdea, gwylltiodd Peilat yr Iddewon wrth godi baneri Rhufain yn Jerwsalem (Roedd y baneri yn dangos llun yr Ymerawdwr, rhywbeth oedd yn erbyn y Gyfraith Iddewig). Ar ôl 6 diwrnod o brotestio, cafodd y baneri eu tynnu i lawr. Roedd hefyd am ddefnyddio arian y Deml i godi dyfrffordd (aqueduct) i ddod â dŵr i’r ddinas. Protestiodd miloedd o Iddewon pan ddaeth Peilat i Jerwsalem. Cafodd lawer iawn o Iddewon eu lladd bryd hynny gan y milwyr Rhufeinig. Mae rhai yn meddwl mai sôn am y digwyddiad hwn mae Luc 13:1,2.
• Mae Peilat yn cael ei ddisgrifio mewn dogfennau hanesyddol fel dyn caled, creulon a sbeitlyd. Roedd yn barod i dderbyn llwgrwobrwyon, ac i ddienyddio pobl oedd heb sefyll eu prawf mewn llys barn. Hyd yn oed mewn llyfrau hanes seciwlar, mae Peilat yn cael ei enwi am un rheswm yn unig – sef am mai ef wnaeth awdurdodi croeshoeliad Iesu Grist.
• Yn y diwedd, aeth cynrychiolaeth o’r Iddewon at Vitellius, llywodraethwr Syria, i gyhuddo Peilat o lofruddio tyrfa fawr o Samariaid. Roedd y Samariaid hyn wedi cyfarfod ar Fynydd Gerisim ar ôl i dwyllwr eu perswadio nhw bod Moses wedi claddu llestri sanctaidd yno. Gorchmynnodd Vitellius i Peilat fynd i Rufain i ateb y cyhuddiad o flaen yr Ymerawdwr. Cafodd Marcellus ei anfon i Jwdea yn ei le. Ond tra roedd Peilat ar ei ffordd i Rufain, bu’r Ymerawdwr Tiberiws farw yn 37 O.C. Wyddon ni ddim beth ddigwyddodd yn yr achos llys, ond mae traddodiad sy’n dweud fod Peilat wedi cyflawni hunanladdiad.
(gweler Mathew 27; Marc 15; Lc 3:1; 13.1; 23:1-52; Ioan 18:29–19:42; Actau 3:13-4:27; 13:28; 1 Timotheus 6:13 hefyd PONTIUS)