Mae'n eu rhybuddio nhw rhag y gau athrawon Iddewig oedd yn dweud eu bod nhw’n dilyn Iesu Grist, ond yn mynnu ar yr un pryd fod rhaid i Gristnogion gadw'r Gyfraith a derbyn defod enwaediad.
Mae Paul yn rhannu ei dystiolaeth ei hun er mwyn dangos fod perthynas iawn gyda Duw yn dod trwy gredu yn Iesu Grist ac nid trwy gadw'r Gyfraith Iddewig.
Y nod ydy’r bywyd tragwyddol mae’r Meseia Iesu yn ei roi, ac mae byw y bywyd Cristnogol yn cael ei ddarlunio fel rhedeg ras (cf.1 Corinthiaid 9:24-27; 2 Timotheus 4:7-8).