Phil 3:19

Yr hyn mae’r Roeg yn ei ddweud ydy “eu duw ydy eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd”. Mae rhai esbonwyr yn credu fod Paul yn cyfeirio at athrawon teithiol oedd yn credu fod rhyddid ganddyn nhw i ymddwyn fel roedden nhw eisiau. Mae esbonwyr eraill yn credu fod Paul yn cyfeirio at yr athrawon Iddewig hynny oedd yn rhoi pwyslais mawr ar gadw’r rheolau Iddewig ynglŷn â’r hyn oedd yn iawn i’w fwyta, a hefyd ar bwysigrwydd y ddefod Iddewig o enwaediad. Os felly, gellid aralleirio’r adnod fel hyn: “cadw rheolau bwyta ac ymffrostio yn eu rhannau preifat ydy duw y dynion yna!”