Phil 3:4-6

Mae Paul yn dweud am ei gymwysterau fel Iddew – allen nhw ddim bod yn well! Roedden nhw cystal, os nad gwell, na chymwysterau unrhyw un o’r athrawon Iddewig mae’n ymosod arnyn nhw. Ond dydy manteision ei gefndir a’i grefydd a’i safle yn y gymdeithas yn cyfri dim o’i gymharu â’i berthynas efo’r Arglwydd Iesu Grist (adn.7-11).