Philip yr Efengylydd

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Roedd Philip yn un o’r Saith gafodd eu dewis fel swyddogion (diaconiaid) yn yr eglwys yn Jerwsalem. Mae’n cael ei alw yn Efengylydd i wahaniaethu rhyngddo a Philip yr Apostol. Ar ôl i Steffan gael ei ferthyru, aeth Philip i gyhnoeddi’r newyddion da yn Samaria, ac mae llyfr yr Actau yn disgrifio fel y daeth dyn o Ethiopia i gredu yn y Meseia trwyddo. Teithiodd o amgylch er mwyn rhannu’r Efengyl nes dod i Gesarea ac mae’n debyg iddo aros yno. Mae Luc, awdur llyfr yr Actau yn dweud bod 4 merch ganddo a’u bod yn gallu proffwydo.
(gweler Actau 6.5; 8.5-40; 21.8)