Pontus

 

• Rhanbarth Rhufeinig ar arfordir gogleddol Asia Leiaf (gogledd Twrci heddiw)
• Enw’r dalaith heddiw ydy Trebizond.
• Mithradates VI oedd rheolwr mwyaf llwyddiannus Pontus. Daeth i reoli Asia Leiaf, a’r Crimea. Dechreuodd fygwth y Rhufeiniaid yng ngwlad Groeg, ond cafodd ei goncro yn 65 C.C gan Pompei. Daeth Pontus wedyn yn dalaith Rufeinig.
• Roedd pobl o ardal Pontus yn Jerwsalem ar ddydd y Pentecost yn gwrando ar dystiolaeth Pedr a’r apostolion eraill. Mae’n debyg mai dyna sut aeth yr Efengyl Gristnogol i Pontus.
• Mae Pedr yn ysgrifennu ei lythyrau at Gristnogion Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia a Bithynia. Wrth ddarllen y llythyrau, rydyn ni’n gweld bod y Cristnogion hyn wedi dioddef llawer oherwydd eu ffydd.
(gweler Actau 2:9; 18:2; 1 Pedr 1:1)