Pregethwr 1

Mae’r awdur yn datgan ei thema – fod bywyd yn ddibwynt ac yn wag.  Mae pobl yn mynd a dod; ac mae cylchoedd natur a hanes yn ailadrodd eu hunain.  Mae’r awdur yn dweud ei fod wedi rhoi ei fryd ar geisio doethineb, ond bellach mae’n teimlo fod mwy o ddoethineb ddim ond yn agor llygaid rhywun i fwy o ofid.