Pregethwr 4

Mae’r awdur yn edrych ar holl anghyfiawnderau bywyd, ac yn mynd mor bell ac awgrymu fod marwolaeth yn well, neu’n well fydd peidio cael eich geni yn y lle cyntaf.  Mae’n son am bobl yn lladd eu hunain yn gweithio ac yn cystadlu â’i gilydd heb stopio am funud i holi beth ydy pwrpas y cwbl.

O adn.9 ymlaen mae myfyrdodau a sylwadau’r awdur yn cynnwys mwy o gyngor a dysgeidiaeth.