Pregethwr 8

Mae’r bennod yma yn trafod y ffaith na all creaduriaid dynol ddeall dirgelwch rhagluniaeth Duw.  Dydy problem drygioni ddim yn gwneud sens.  Mae pobl dda yn derbyn beth mae pobl ddrwg yn ei haeddu, a llawer o bobl ddrwg yn cael eu hedmygu a’u canmol ac yn byw bywyd braf.  Ac eto, mae’n gwybod yn y bôn mai’r bobl sy’n parchu Duw sy’n cael eu bendithio, ac y bydd yr annuwiol yn cael eu cosbi.