Rama

 

Mae rhai arbenigwyr yn meddwl bod Rama wrth ymyl Bethel, tua 5 milltir i’r gogledd o Jerwsalem.
• Mae’r enw i’w weld yn rhai o broffwydoliaethau’r Hen Destament (e.e. Hosea 5:8, Eseia 10:29, Jeremeia 31:15). Mae llyfr y Barnwyr (pennod 4:5) yn dweud fod Debora y broffwydes yn byw yn agos at Rama.
• Pan gafodd yr Israeliaid eu cymryd i Fabilon tua 587 C.C. roedd yn rhaid iddyn nhw gerdded trwy Rama. Yn ei lyfr, mae Jeremeia yn dychmygu Rachel (gwraig Jacob gafodd ei chladdu yn agos at Fethlehem) yn ei bedd yn wylo wrth weld helyntion yr Iddewon.
• Mae lle o’r enw Rama hefyd yn cael ei gysylltu hefo Samiwel. Weithiau mae’r lle yn cael ei alw’n Ramathaim (1 Samiwel 1:1). Daeth arweinwyr Israel i Rama i ofyn am frenin yn 1 Samiwel 8. Aeth Dafydd yno i guddio pan oedd Saul am ei ladd, cyn iddo ddianc i Nob.
• Mae arbenigwyr heddiw yn enwi 4 safle fel lleoliad posib i Rama
o Ramallah, tua 8 milltir i’r gogledd o Jerwsalem
o Beit Rama, 12 milltir i’r gogledd orllewin o Jerwsalem
o Er Ram
o Nebi Samwil.
Ond erbyn hyn does neb yn siŵr ble yn union mae Rama.
(gweler Mathew 2:18)