Rhuf 1:1-17

 

Mae Paul yn y llythyr yma yn dweud beth yn union ydy’r ffydd Gristnogol. Mae'n dweud fod y newyddion da mae'n ei gyhoeddi yn gyson ag addewidion Duw yn yr ysgrifau sanctaidd (yr Ysgrythurau Iddewig), ac mae hynny'n golygu galw pobl sy ddim yn Iddewon i berthynas iawn â Duw.
Iesu Grist ydy prif thema'r newyddion da (adn.3-6).
Mae Paul yn dweud ei fod yn gweddïo dros Gristnogion Rhufain yn gyson. Mae e’n gobeithio ymweld â nhw a gweinidogaethu iddyn nhw.
Mae prif thema’r llythyr yn adn.16,17 – y newyddion da am y Meseia ydy ffordd Duw o ddod ag Iddewon a phobl o genhedloedd eraill i berthynas iawn a fe’i hun. Mae Duw yn achub pawb sy’n ymddiried yn llwyr ynddo.