Rhuf 1:18-32

 

Does dim esgus gan bobl am eu drygioni a'u gwrthryfel yn erbyn Duw. Mae'r byd hardd mae Duw wedi ei greu, a holl ryfeddodau natur, yn ddigon o dystiolaeth iddyn nhw sut un ydy Duw. Ond yn lle hynny mae pobl wedi dewis dilyn eu syniadau eu hunain, ac addoli pethau sydd wedi eu creu yn lle addoli'r Crëwr.
Mae digofaint Duw i'w weld yn y ffaith ei fod wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Ond mae gan bechod ei ganlyniadau.
Problem sylfaenol y ddynoliaeth ydy ei bod hi wedi dewis gwrthod Duw, a marwolaeth ydy'r canlyniad (adn.32).