Rhuf 6:1-23

 [Y ‘bedydd’ y maen sôn amdano yn adn.1-7 ydy marwolaeth Iesu Grist. cf.Galatiaid 2:20; Luc 12:50; Marc 10:38-39]
Dydy’r ffaith fod Duw mor garedig a hael ddim yn esgus i ni ddal i bechu. Dyn ni’n rhannu yn atgyfodiad Iesu Grist yn ogystal ag yn ei farwolaeth. Mae hynny’n golygu ein bod ni i fyw bywyd newydd yn ei nerth Ef. Ble roedd pechod yn feistr arnom o’r blaen, Duw ydy ein meistr newydd ni. Dyn ni wedi'n rhyddhau o afael pechod a dod yn gaethweision Duw.
Dyn ni mewn perthynas â Duw am ei fod e’n ffyddlon, ac mae Duw ar waith yn ein bywydau ni yn ein glanhau ni ac yn ei gwneud yn bosibl i ni i fyw bywyd newydd. Yn wir mae’r newid hwn (‘sancteiddhad’) yn dystiolaeth o realiti perthynas iawn gyda Duw (cf.Hebreaid 12:14).