Rhuf 8:1-17

 

Felly sut mae byw fel Cristion? Mae'r Cristion wedi ei ryddhau o afael pechod a'i ganlyniad (sef marwolaeth) trwy aberth Iesu Grist. Doedd rheolau’r Gyfraith ddim yn gallu gwneud hyn. Er hynny mae'r Gyfraith yn dal yn werthfawr ac yn ddefnyddiol gan ei bod yn rhoi canllawiau moesol i ni. Ond yr Ysbryd sy'n ei gwneud yn bosibl i ni fyw'r bywyd newydd. Felly mae’n rhaid i ni ddysgu bod yn agored i ddylanwad yr Ysbryd, a pheidio gadael i'n natur bechadurus ein rheoli ni.