Rhufain

 

• Un o ddinasoedd pwysicaf y byd. Prifddinas yr Eidal ar lan yr Afon Tevere (Tiber) yn agos at arfordir gorllewinol yr Eidal. Mae’n sefyll ar saith bryncyn. Yn ôl traddodiad, Romulus ddechreuodd y gwaith adeiladu ar fryncyn Palatine yn 753 C.C. Roedd Romulus a’i efaill Remus yn feibion i’r duw Mawrth. Yn ôl y chwedl cawson nhw eu magu gan flaidd.
• Dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl aeth byddinoedd y Rhufeiniaid i oresgyn gwledydd glannau Môr y Canoldir a gorllewin Ewrop. Rhufain oedd canolfan yr Ymerodraeth Rufeinig.
• Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd llawer o adeiladau gwych eu hadeiladu yn Rhufain – y Fforwm, y Parthenon, y Coliseum. Mae’r adfeilion i’w gweld yno hyd heddiw.
• Ysgrifennodd Paul lythyr at yr eglwys Gristnogol yn Rhufain tua 57 O.C. pan oedd, mae’n debyg ar ei drydedd daith genhadol. Roedd y rhan fwyaf o’r Cristnogion yn yr eglwys yn genedl-ddynion (pobl oedd ddim yn Iddewon) ond roedd rhai Iddewon yno hefyd.
• Ar ddiwedd llyfr yr Actau rydyn ni’n darllen am Paul yn dewis mynd i sefyll ei brawf o flaen yr Ymerawdwr yn Rhufain. Hyd yn oed fel carcharor, cafodd gyfle i rannu’r Efengyl yn y ddinas fawr oedd yn ganolfan i’r “byd” yn y cyfnod hwn. Wyddon ni ddim yn fanwl beth ddigwyddodd i Paul yno. Mae’n debyg iddo gael ei ryddhau, a pharhau gyda’i waith cenhadol. Ond cafodd ei arestio eto’n ddiweddaracch. Rydyn ni’n meddwl ei fod wedi cael ei ladd tua 68 O.C.
• Cafodd Cristnogion Rhufain eu herlid yn greulon. Roedd y Rhufeiniaid yn arfer eu gorfodi i ymladd yn erbyn anifeiliaid gwyllt yn y Coliseum – yn ddynion, merched a phlant.
• Yn y 5ed ganrif O.C. collodd Rhufain ei phwysigrwydd fel canolfan yr Ymerodraeth, ond daeth yn bencadlys y Pab a’r Eglwys Babyddol. Mae llawer o eglwysi, capeli a basilicâu yno gan gynnwys Eglwys Sant Pedr. Yn Rhufain hefyd mae dinas y Fatican lle mae cartref y Pab.
(gweler Mathew 22:17; Marc 12:14; Luc19:2; 20:22; 23:2; Actau 18:2; 19:21; 23:11; 25:16; 28:7, 16, 17)