Sachareias

 

Tad Ioan Fedyddiwr. Roedd Sachareias yn offeiriad, o grŵp offeiriadol Abeia. Roedd cymaint o offeiriaid yn Israel, roedden nhw’n cael eu rhannu yn grwpiau, gyda phob grŵp yn dod i weithio yn y Deml yn Jerwsalem am bythefnos yn eu tro. Roedd Sachareias wedi priodi Elisabeth, perthynas i Mair, mam Iesu. Doedd dim plant gan y ddau, ac roedden nhw’n hen pan gafodd Sachareias wybod gan angel yn y deml eu bod yn mynd i gael mab, ac mai ei enw fyddai Ioan. Cafodd Sechareias ei wneud yn fud hyd nes y cafodd y mab ei eni a’i enwi. Mae Proffwydoliaeth Sachareias yn ddarn enwog iawn o’r Ysgrythur, yn sôn am y gwaith oedd o flaen Ioan.
(gweler Luc 1:5-67; 3:2)