Sacheus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Roedd yn brif gasglwr trethi, yn byw yn Jericho a daeth yn ddisgybl i Iesu. Roedd yn ddyn amhoblogaidd iawn. Fel casglwr trethi roedd yn gweithio i’r Rhufeiniaid, y gormeswyr, ac roedd hefyd yn cymryd mantais o’i swydd ac yn dwyn arian trwy ofyn am fwy na’r swm angenrheidiol, a chadw peth iddo’i hun. Mae Luc yn dweud yn ei efengyl fod Sacheus yn ddyn byr, a dringodd goeden er mwyn gweld Iesu pan ddaeth i Jericho. Gofynnodd Iesu am gael dod ato i’w dŷ, a rhoddodd Sacheus groeso cynnes iddo. Dangosodd y casglwr trethi hefyd fod ei fywyd a’i werthoedd wedi cael eu troi wyneb i waered gan Iesu. Roedd yn ddrwg ganddo am ei bechod, ac addawodd roi hanner ei eiddo i’r tlodion, a talu nôl 4 gwaith i’r bobl oedd wedi cael eu twyllo ganddo. Dywedodd Iesu fod y bobl oedd yn y tŷ y diwrnod hwnnw wedi cael gweld beth ydy achubiaeth. Roedd Sacheus yn fab go iawn i Abraham. Ond doedd pawb ddim yn hapus gyda’r hyn ddigwyddodd – roedd y dyrfa o gwmpas yn feirniadol iawn o Iesu am ei fod yn cadw’r fath gwmni drwg. Eglurodd Iesu ei fod wedi dod i chwilio am, ac i achub y bobl hynny oedd wedi mynd ar goll – sef pobl fel Sacheus!
(gweler Luc 19:1-10)