Salm 102

Credir fod y Salm yma wedi ei chyfansoddi tua diwedd cyfnod y gaethglud (cf.adn.13 – cymh. Jeremeia 29:10; Daniel 9:2).

adn.1-11 – mae’n disgrifio’i argyfwng – mae’n sâl yn gorfforol, yn isel ei ysbryd, yn cael ei boenydio gan ei elynion ac yn teimlo fod Duw wedi ei wrthod.  Ond mae’n annog troi at Dduw pan mae pethau’n anodd.

adn.12-22 – mae’n troi ei olygon oddi wrth ei amgylchiadau at y Duw sy’n ateb gweddiau ei bobl.  Mae’n credu’n gydwybodol y bydd Duw yn trugarhau wrth Jerwsalem ac yn rhyddhau ei bobl, ac mae am i’w broffwydoliaeth/obaith gael ei gofnodi ar bapur er mwyn y cenedlaethau sydd i ddod.

adn.23-28 – Er fod Duw wedi cosbi, mae’r salmydd yn hollol sicr y bydd yn trugarhau eto.  Fo ydy’r Crëwr wnaeth osod sylfaeni’r ddaear; bydd y ddaear yn darfod, ond mae Duw’n dragwyddol.  Bydd ei genhedlaeth o yn mynd heibio, ond mae’n hollol sicr y daw cenhedlaeth arall fydd yn cael y fraint o addoli Duw yn Seion unwaith eto.