Salm 118

Emyn ydy hon oedd i’w chanu gan brosesiwn ar eu ffordd i’r deml – y brenin, yr offeiriaid a’r bobl. 

adn.1-18 - Wrth iddyn nhw agosáu at y deml mae’r brenin yn cofio buddugoliaeth Duw ar ran ei bobl.

adn.19-27 – maen nhw’n galw ar y giât allanol i agor, ac yna’n mynd yn eu blaenau at yr allor gan gario canghenau yn eu dwylo.  (Mae geiriau adn.22-23 yn cael eu cymhwyso i gyfeirio at y Meseia Iesu – gw. Mathew 21:42; Actau 4:11).