Salm 30

Salm o ddiolch ydy hon.  Mae’n amlwg fod Dafydd wedi cael ei achub o sefyllfa beryglus dros ben.  Roedd ei fywyd mewn perygl.  Ond yma mae’n clodfori Duw am ei achub rhag ei elynion.

Yn adn.6-12 mae’n adrodd hanes beth ddigwyddodd.  Cyn i’r sefyllfa anodd godi roedd yn meddwl ei fod yn hollol saff ac na allai dim byd fynd o’i le.  Ond yna newidiodd pethau, ac roedd ei fywyd mewn perygl, a Duw fel petai wedi troi ei gefn arno.  Daeth i weld ei fod yn gwbl ddibynol ar Dduw.  Mae’n galw am drugaredd ac mae Duw yn ei achub.  Mae ei dristwch yn troi yn lawenydd.