Salm 47

Mae’r tair Salm – 46, 47 a 48 – yn mynd gyda’i gilydd ac o bosibl yn coffau’r ffordd wnaeth Duw achub Jerwsalem o law Senacherib brenin Assyria (gw. 2 Brenhinoedd 18,19; 2 Cronicl 32; Eseia 36,37).

Emyn sy’n disgrifio Duw fel y brenin sy’n teyrnasu dros bawb a phopeth ydy’r salm yma.  Mae’n gwahodd pobloedd y byd i gyd i ddathlu, curo dwylo a gweiddi’n llawen wrth addoli Duw.  Mae’n son am y ffordd roedd Duw wedi brwydro dros ei bobl, a rhoi tir iddyn nhw ei etifeddu (sef y tir wnaeth o ei addo hynafiaid y genedl).  Mae’n galw ar bawb i’w gydnabod yn frenin a’i addoli.