Salm 7

Mae Dafydd yn gweddïo ar i Dduw ei amddiffyn a’i achub rhag ei elynion.  Mae’n fodlon derbyn y canlyniadau os ydy o’n haeddu’r hyn sy’n digwydd.  Ond mae’n credu’n gydwybodol nad ydy o ar fai, ac y bydd Duw yn barnu’r rhai drwg.  Os na fydd pobl yn troi cefn ar eu pechod bydd Duw yn cosbi (adn.12-13).  Ond mae’n tynnu sylw at egwyddor arall hefyd – mae drygioni yn arwain pobl i annawsterau yn y pen draw beth bynnag (adn.14-16; gw. hefyd Salm 9:15-16).  Felly mae’r Salm yn cloi gyda nodyn o fawl i’r Duw cyfiawn.