Salmon

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Barnwyr. Mab Nahson a tad Boas. Hen hen daid/dad-cu y brenin Dafydd. Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
Mae coeden deuluol Luc yn wahanol i un Mathew, ac yn mynd yn ôl yn bellach hyd at deulu Adda. Mae rhai yn credu fod Mathew am ddangos y cysylltiad rhwng Iesu â’r brenin Dafydd, ond fod Luc am ddangos fod Iesu yn perthyn i’r ddynoliaeth gyfan. Mae llawer o’r enwau i’w gweld yn llyfr Genesis ac ar ddechrau 1 Cronicl. Mae Mathew yn dechrau gydag Abraham, tad y genedl Iddewig, ond mae Luc yn gweithio yn ôl, yn olrhain achau Iesu yr holl ffordd i Adda, tad y ddynoliaeth. Mae’r rhestrau o Abraham i Dafydd bron yr un fath, ond o Dafydd ymlaen, maent yn wahanol iawn. Mae Mathew yn olrhain yr achau drwy Joseff (tad Iesu), a Luc drwy Mair (ei fam).
(gweler Ruth 4:20,21; Mathew 1:4,5 a Luc 3:32)