Silas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore sydd yma yn cael ei alw yn Silfanus (ffurf arall ar yr enw Silas). Cydweithiwr i Paul.
Roedd yn aelod amlwg yn eglwys Jerwsalem, yn ddinesydd Rhufeinig, ac roedd yn gallu proffwydo. Dyma ychydig o ffeithiau amdano.
• Cafodd Silas a Jwdas Barsabas eu hanfon i Antiochia hefo Paul a Barnabas i ddweud wrth y Cristnogion oedd ddim yn Iddewon beth oedd wedi cael ei benderfynu yn y cyngor yn Jerwsalem ynghylch y defodau Iddewig fel enwaediad.
• Ar ôl i Paul a Barnabas wahanu o ganlyniad i ffrae am Ioan Marc (am ei fod o wedi eu gadael nhw ar y daith gyntaf, doedd Paul ddim yn barod iddo fynd ar yr ail daith, yn wahanol i Barnabas), cafodd Silas fynd hefo Paul fel cydweithiwr. Teithiodd gyda Paul trwy Syria, Asia Leiaf, Macedonia a Thesalonica.
• Ar ôl yr helynt yn Thesalonica, aeth Paul a Silas i Berea i gyhoeddi’r Efengyl. Ond dilynodd Iddewon Thesalonica nhw i Berea, a dechrau codi helynt yno hefyd. Cafodd Paul ei anfon i ffwrdd yn syth, ond arhosodd Silas yno yng nghwmni Timotheus cyn mynd i gyfarfod hefo Paul yng Nghorinth. Mae Paul yn sôn am waith Silas (Silfanus) yn pregethu yn ei lythyr at y Corinthiaid.

(gweler 2 Corinthiaid 1:19; 1 Thesaloniaid 1:1; 2 Thesaloniaid 1:1; 1 Pedr 5:12 hefyd SILAS Actau 15:22- 18.5 )