Simon (dewin)

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Dyn oedd yn byw yn Samaria, ac yn enwog am ei allu fel swynwyr (magician). Roedd yn cael ei adnabod fel yr ‘Un Pwerus’. Ar ôl i Philip fynd i Samaria a rhannu’r Efengyl am Iesu, credodd llawer o bobl a chael eu bedyddio – gan gynnwys Simon. Ond mae’n amlwg ei fod yn dal i feddwl fel swynwr. Pan welodd Pedr ac Ioan yn rhoi eu dwylo ar bobl, a’r Ysbryd Glân yn disgyn, cynigiodd Simon arian iddyn nhw er mwyn iddo allu gwneud yr un peth. Cododd Pedr ofn arno wrth ddweud y drefn am wneud y fath beth.
Mae llawer o draddodiadau am Simon. Mae Hyppolytus (awdur a diwinydd Cristnogol o’r 3edd ganrif) yn dweud ei fod wedi cael ei gladdu’n fyw, gan ddweud y byddai’n dod yn ôl mewn tri diwrnod. Ddigwyddodd hynny ddim – achos, fel dywedodd Hyppolytus “nid fe oedd y Crist”!
(gweler Actau 8:9-24)