Simon y Selot

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a’r Eglwys Fore. Un o ddisgyblion Iesu, aelod, neu cyn-aelod o blaid y Selotiaid, grŵp o bobl oedd am i’r Iddewon wrthryfela yn erbyn y Rhufeiniaid. Roedd y Phariseaid a’r Sadwceaid yn barod i ddioddef goresgyniad y Rhufeiniad, ond roedd y Selotiaid yn genedlaetholwyr brwd, ac am ymladd am eu rhyddid. Yn y diwedd dechreuon nhw chwyldro arweiniodd at ddinistr Jerwsalem yn 70 O. C. pryd y cafodd y deml ei dinistrio. I’r Selotiaid, roedd plygu i’r Rhufeiniaid yn annerbyniol am resymau gwleidyddol a chrefyddol. Duw oedd unig frenin Israel, ac felly doedd hi ddim yn iawn i’r Iddewon blygu i frenhiniaeth neu ymerodraeth Cesar.
(gweler Mathew 10:4; Marc 3:18; Luc 6:15; Actau 1:13)