Sosthenes

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Roedd Sosthenes yn brif swyddog yn synagog Corinth. Daeth i’r swydd ar ôl i’w ragflaenydd Crispus ddod yn Gristion. Mae Luc (awdur Llyfr yr Actau) yn dweud fod Iddewon Corinth wedi gofyn i Galio, rhaglaw Achaia, gynnal achos llys yn erbyn Paul. Gwrthododd Galio am mai materion crefyddol Iddewig oedd achos yr anghydweld yn ei farn o, ac nid materion gwleidyddol neu gyfreithiol. Wedyn, ymosododd criw o bobl ar Sosthenes a’i guro. Mae rhai llawysgrifau yn awgrymu mai Groegiaid oedd y rhain, a bod y digwyddiad yn ymosodiad gwrth-Semitaidd. Mae llawysgrifau eraill yn awgrymu mai Iddewon oedden nhw – yn teimlo efallai fod prif swyddog y Synagog wedi eu cywilyddio nhw drwy fethu erlyn Paul, neu efallai am eu bod yn meddwl ei fod yntau yn cydymdeimlo hefo’r Cristnogion..
Yn 1 Corinthiaid mae dyn o’r enw Sosthenes yn cael ei enwi fel un sy’n anfon y llythyr. Dydyn ni ddim yn gwybod ai’r un dyn ydy hwn ai peidio, ond roedd Sosthenes yn enw pur anghyffredin, felly mae yn bosibl.
(gweler Actau 18:17; 1 Corinthiaid 1:1)