Steffan

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore.
• Aelod yn yr eglwys gynnar yn Jerwsalem. Un o’r saith gafodd eu dewis gan yr apostolion yn fuan ar ôl y Pentecost i ofalu am bethau ymarferol, fel rhoi cymorth i weddwon, er mwyn i’r apostolion fod yn rhydd i wneud y gwaith mwy ysbrydol. Mae gan y saith dyn enwau Groegaidd, felly efallai mai Iddewon Groegaidd oedden nhw. Mae Steffan yn sefyll allan – oherwydd ei ffydd, ei ras, ei allu ysbrydol a’i ddoethineb. Roedd Steffan hefyd yn pregethu ac yn gwneud gwyrthiau.
• Cyhuddodd rhai o Iddewon y synagog Helenistaidd (Groegaidd) ef o gablu yn erbyn Duw. Siaradodd Steffan o flaen y Cyngor ac adrodd hanes Israel ar hyd y canrifoedd a dweud yn y diwedd fod yr Iddewon wedi lladd Meseia Duw. Mae’r Beibl yn dweud fod wyneb Steffan fel wyneb angel wrth iddo siarad. Dywedodd ei fod yn gallu gweld Iesu yn sefyll wrth ochr Duw – ac wedi clywed hynny gwylltiodd yr Iddewon a dechrau taflu cerrig at Steffan, nes iddo farw. Wrth farw, gweddïodd Steffan fel Iesu Grist, a gofyn i Dduw faddau i’r dynion oedd yn gwneud drwg iddo.
• Roedd Saul (Paul ddaeth yn genhadwr ac yn apostol dros Grist mewn amser) yn un o’r bobl oedd yn sefyll yno pan ddigwyddodd hyn. Saul edrychodd ar ôl cotiau’r dynion oedd yn llabyddio Steffan. Wrth gwrs roedd hyn cyn i Saul gael tröedigaeth.
(gweler Actau 6:5; 6:8–8:2; 11:19; 22:20)