Tamar

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid. Gwraig i Er, mab hynaf Jwda ac yna i Onan ei frawd. Bu’r ddau frawd farw. Gwrthododd Jwda adael i’w drydydd mab ei phriodi, rhag ofn iddo yntau farw hefyd. Gwisgodd Tamar fel putain er mwyn twyllo Jwda, ei thad yng nghyfraith, a gwneud iddo fo gysgu hefo hi. Beichiogodd hi a geni efeilliaid o’r enw Peres a Sera. Mae enwau’r ddau fab i’w gweld yng nghoeden deuluol Iesu yn y Testament Newydd yn Mathew 1.
(gweler Genesis 38:6-24; Ruth 4:12; 1 Cronicl 2:4; Mathew 1:3)