Theoffilus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd. Ystyr ei enw ydy “un sy’n caru Duw” Cyflwynodd Luc y ddwy gyfrol ysgrifennodd, sef ei Efengyl a llyfr yr Actau, i Theoffilus. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy oedd y dyn hwn, swyddog Rhufeinig efallai, ond mae Luc am iddo glywed neu ddarllen y ffeithiau cywir am y ffydd Gristnogol.
(gweler Luc 1:3; Actau 1:1)