Thesalonica

 

• Yng nghyfnod y Testament Newydd roedd Thesalonica yn borthladd pwysig a phrysur, tua 100 milltir i’r gorllewin o ddinas Philipi. Dyma brifddinas rhanbarth Macedonia. Roedd yn ddinas bwysig oherwydd ei bod ar y Via Egnatia (ffordd garreg gafodd ei hadeiladu gan y Rhufeiniaid).
• Roedd poblogaeth fawr o fwy na 200,000 yn y ddinas ac roedd llawer iawn o Iddewon yn byw yno. Yn naturiol roedd llawer o synagogau yn y ddinas. Mae llyfr yr Actau yn dweud hanes Paul yn rhannu’r newyddion da am Iesu yn y synagogau. Daeth llawer i gredu, ond roedd gwrthwynebiad mawr hefyd.
• Ysgrifennodd Paul ddau lythyr i’r eglwys ifanc oedd yn Thesalonica yng nghyfnod y Testament Newydd.
• Yr enw modern ar Thesalonica yw Salonika yng ngwlad Groeg.
(gweler Actau 17:13; 20:4; 27:2; Philipiaid 4:16)