Thyatira

 

• Yng nghyfnod y Testament Newydd roedd Thyatira yn rhanbarth Rhufeinig Asia (gorllewin Twrci heddiw), tua 20 milltir i’r de ddwyrain o Pergamus. Roedd yn dref bwysig iawn gan fod ffordd yn mynd o Thyatira i Pergamus (prifddinas y rhanbarth), ac hefyd i Laodicea ac ymlaen i’r rhanbarthau yn y dwyrain.
• Roedd y dref yn enwog am weithfeydd lliwio defnydd, yn arbennig am liwio defnydd yn goch tywyll (y lliw porffor brenhinol), ac am weithfeydd pres/efydd. Roedd gwersyll milwyr Rhufeinig yno hefyd.
• Yn llyfr Datguddiad mae Thyatira yn un o saith eglwys Asia sy’n cael neges arbennig gan Dduw.
• Mae tref fawr fodern yn sefyll ar yr un safle heddiw – Akhisar.
(gweler Actau 16:14; Datguddiad 1:11; 2:18, 24)