Tiberiws Cesar

 

Cymeriad yn y Testament Newydd. Ymerawdwr Rhufain 14 O.C. – 37 O.C. Tiberiws oedd y Cesar, prif reolwr ymerodraeth Rhufain yn y cyfnod pan oedd Iesu yn mynd o gwmpas yn dysgu ac yn iacháu. Roedd yn llysfab i Awgwstus Cesar. Cafodd ei fabwysiadu ganddo pan ddeallodd Awgwstus nad oedd yn mynd i gael etifedd naturiol. Pan oedd Tiberiws yn 56 oed yn 14 O.C. bu farw Awgwstus a daeth Tiberiws i reoli. Roedd yr Ymerodraeth yn llwyddiannus iawn yn ystod ei gyfnod. Gadawodd Rufain ac encilio i fyw i Ynys Capri. Bu farw yn 37 O.C.
( gweler Luc 3:1; Ioan 19:12,15)