Titus 1:15

Yn ôl 1 Timotheus 4:4 – “Mae popeth mae Duw wedi ei greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar. Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i’w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi.” Ond roedd yr athrawon ffals yn cadw rheolau am beth oedd yn iawn i’w fwyta a beth oedd ddim (cf Mathew 15:10-11, 16-20; Marc 7:14-19; Actau 10:9-16; Rhufeiniaid 14:20). Doedd ganddyn nhw ddim eisiau cael eu ‘llygru’, ond mae Paul yn dweud fod y ffaith eu bod nhw’n arddel y fath syniadau yn profi eu bod nhw’n llygredig.