Tomos

Tomos:

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a’r Eglwys Fore. Un o’r deuddeg disgybl. Ystyr yr enw ydy ‘efaill’, ac mae efengyl Ioan yn dweud ei fod yn cael ei adnabod fel ‘yr Efaill’, neu ‘Didymus’ yn yr iaith Roeg. (Ioan 11:16; 20:24; 21:2). Dyma’r prif bethau dyn ni’n gwybod amdano:
• Roedd Tomos yn barod i fynd gyda Iesu at fedd Lasarus, er bod hynny’n beryglus ar y pryd gan fod llawer yn Jwdea edrych ar Iesu fel gelyn ac eisiau ei ladd.
• Pan ddywedodd Iesu yn Ioan 14 ei fod yn mynd at y Tad roedd Tomos yn methu deall i ble roedd yn mynd.
• Doedd Tomos ddim gyda’r disgyblion eraill pan ymddangosodd Iesu iddyn nhw ar ôl iddo atgyfodi. Doedd e ddim yn gallu credu fod Iesu yn fyw. Dywedodd ei fod angen gweld ôl yr hoelion yn nwylo Iesu, a rhoi ei law yn ystlys Iesu (lle gafodd ei drywanu gyda gwaywffon pan oedd ar y groes) cyn credu.
• Daeth Iesu ato wedyn a’i annog i edrych ar ei ddwylo a chyffwrdd ag olion yr hoelion a’r waywffon. Ymateb Tomos oedd cyffesu Iesu fel ei Arglwydd a’i Dduw.
• Aeth Tomos i bysgota gyda rhai o’r disgyblion eraill. Doedden nhw ddim yn gallu dal dim pysgod nes i Iesu alw arnyn nhw o lan y llyn. Dywedodd e wrthyn nhw am daflu’r rhwyd i’r ochr arall.
(gweler Mathew 10:3; Marc 3:18; Luc 6:15; Ioan 11:16; 14:5; 20:24-28; 21:2; Actau 1:13)