Troas

 

• Dinas a phorthladd ar arfordir gogledd orllewin Asia Leiaf (Twrci heddiw)
• Mae’r enw Troas yn cael ei gysylltu gyda chwedl Roegaidd a cherdd hir yr Iliad gan Homer sy’n dweud hanes Paris yn cipio Helen o Droas oddi wrth ei gŵr. Roedd i’n wraig hardd iawn, iawn. Arweiniodd hyn at Ryfeloedd Troas.
• Yn ôl traddodiad roedd Iŵl Cesar wedi meddwl symud llywodraeth Rhufain i ddinas Troas, oherwydd bod chwedl Roegaidd yn dweud mai Aeneas o Troas sefydlodd Rhufain, ac oherwydd bod mab Aeneas, Julus, yn un o gyndeidiau teulu Iŵl Cesar.
• Mae arbenigwyr yn meddwl bod y Troas oedd yn bodoli yng nghyfnod y Testament Newydd tua 10 milltir o safle’r ddinas hanesyddol honno. Alexandria Troas oedd yr enw llawn. Roedd yn goloni Rhufeinig ac yn bwysig iawn oherwydd bod pobl yn gallu teithio o borthladd Troas i ranbarthau eraill e.e.Macedonia, ac Asia Leiaf.
• Cafodd eglwys Gristnogol ei sefydlu yno rywbryd rhwng ail a thrydedd daith genhadol Paul. Gweithiodd Paul yno ar ôl iddo adael Effesus ar ei ffordd yn ôl i Jerwsalem
(gweler Actau 16:8, 11; 20:5,6; 2 Corinthiaid 2:12; 2 Timotheus 4:13)