Tyrus

• Ystyr yr enw Tyrus ydy “Y Graig”. Porthladd mawr, naturiol a chaer ar arfordir Môr y Canoldir (gwlad Lebanon heddiw).
• Roedd dinas Tyrus yn cael ei chysylltu gyda hen grefyddau paganaidd gwlad Canaan. Roedd temlau i’r duwiau Melquart ac Astarte yno, ac yno hefyd cafodd hen frenhinoedd yr ardal eu claddu. Dyna pam efallai fod Iesu mor feirniadol wrth siarad am y ddinas.
• Roedd yno ddau harbwr mewn gwirionedd. Roedd morwyr Tyrus yn enwog am eu dewrder – nhw oedd y cyntaf i hwylio gan ddilyn y sêr. Cyn hynny roedd morwyr yn dilyn yr arfordir wrth deithio o le i le.
• Pan ddechreuodd y brenin Solomon adeiladu ei deml hardd yn Jerwsalem (tua 960 C.C.), rhoiodd Brenin Tyrus ddefnyddiau adeiladu i’w helpu.
• Yn amser y brenin Nebuchodnosor (605 – 562 C.C.), cafodd Tyrus ei chadw dan warchae am 13 o flynyddoedd.
• Prif fasnach Tyrus oedd cynhyrchu gwydr, a’r lliw coch neu borffor.
• Roedd pobl yr ardal yn dibynnu ar Galilea am lawer iawn o’u bwyd.
• Pregethodd Iesu yn ardal Tyrus, ac roedd pobl Tyrus yn aml yn teithio i Galilea i wrando ar Iesu.
• Roedd Cristnogion y ddinas yn weithgar iawn yn y ganrif gyntaf. Treuliodd Paul a Luc wythnos gyda’r grŵp bach o Gristnogion oedd yn cyfarfod yno.
• Cafodd Origen, yr ysgolhaig Cristnogol enwog, ei gladdu yno yn 254 O.C.
(gweler Mathew 11:21,22; 15:21; Marc 3:8; 7:24, 31; Luc 6:17; 10:13, 14; Actau 12:20; 21:3, 7)