1 Corinthiaid

Pwy ydy awdur y llythyr?
Paul, Iddew o Darsus, wnaeth droi o fod yn elyn i Iesu yn erlid y Cristnogion cyntaf, i fod yn apostol iddo, yn teithio i rannu’r Efengyl a dechrau eglwysi newydd. (am fwy o’i hanes edrychwch ar “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid). Gweithiodd yn arbennig i ddweud wrth bobl oedd ddim yn Iddewon am Iesu. Mae hanes ei deithiau a’i waith yn llyfr yr Actau. Mae’n debyg iddo fo farw yn Rhufain tua 67 O.C. trwy orchymyn yr Ymerawdwr Nero. Mae rhai o’r llythyrau ysgrifennodd Paul at yr eglwysi newydd, ac at unigolion, yn y Testament Newydd.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae ysgolheigion yn awgrymu bod y llythyr hwn wedi ei ysgrifennu o Effesus tua 54 O.C. ar ddiwedd arhosiad Paul yn y ddinas honno (Actau 19 - 20)

Pam?
Dinas bwysig yng ngwlad Groeg oedd Corinth, gyda dau borthladd, a ffyrdd da iawn. Roedd yn enwog fel canolfan fasnach, ond hefyd am anfoesoldeb rhywiol. Roedd cannoedd o buteiniaid yn gweithio yn nheml Aphrodite yn y ddinas. Daeth Paul yno tua 50 O.C. yn ystod ei ail daith genhadol (Actau 18) ac aros yno am tua 18 mis yn rhannu’r Efengyl i’r Iddewon yn gyntaf ond yna i bobl eraill. Daeth Silas a Timotheus ato i’w helpu. Yna aeth yn ei flaen i Effesus.
Roedd eglwys Corinth yn weddol fawr, a mwyafrif yr aelodau ddim yn Iddewon, ac yn gymysgedd ryfedd o bobl. Oherwydd bod yr eglwys yn newydd, yn ddibrofiad, yn gwybod dim byd am yr Hen Destament, ac yn byw ynghanol paganiaeth ac anfoesoldeb, roedd problemau yn siwr o godi! Roedd wedi ysgrifennu un llythyr atyn nhw eisoes (1 Cor 5:9) yn eu rhybuddio nhw rhag anfoesoldeb rhywiol (does dim copi o hwn ar gael i ni heddiw). 1 Corinthiaid oedd ei ail lythyr atyn nhw. Roedd wedi clywed (drwy Chloe a phobl eraill) fod yna cliques yn yr eglwys. Yna roedd y Corinthiaid wedi ysgrifennu ato fo yn gofyn cwestiynau am ochr ymarferol byw fel Cristion – cwestiynau am
• ddefnyddio llysoedd barn paganaidd
• priodas ac anfoesoldeb rhywiol
• bwyd wedi ei aberthu i eilunod
• sut i ymddwyn wrth gofio am farwolaeth Iesu yn swper yr Arglwydd.
Mae 1 Corinthiaid yn ateb y llythyr hwnnw.
Mae Paul yn dweud y drefn wrth yr eglwys am y rhaniadau sydd ynddi, ac yn ateb y cwestiynau oedd yn eu llythyr nhw. Mae o’n siarad yn blaen iawn – a doedd y llythyr ddim yn boblogaidd iawn gydag eglwys Corinth. Does neb yn hoffi cael ei feirniadu! Mae’n debyg fod Paul wedyn wedi mynd i weld yr eglwys er mwyn ceisio setlo’r broblem, ond croeso digon oeraidd gafodd o (2 Corinthiaid 2:1). Wedi iddo fynd yn ôl i Effesus ysgrifennodd Paul lythyr arall (2 Cor 2:4; 7:8) (does dim copi o hwn ar gael heddiw) ac anfon Titus i Gorinth gyda’r llythyr. Yna aeth Paul i Macedonia i gyfarfod Titus a chael gwybod bod y Corinthiaid erbyn hyn wedi newid agwedd ac yn barod i wrando arno (2 Cor 2:12; 7:6,7). Yna anfonodd bedwerydd llythyr (sef 2 Corinthiaid). Er bod 1 Corinthiaid yn llythyr sy’n ateb problemau, mae’n cynnwys rhai o ddarnau mwyaf enwog y Beibl e.e. pennod 13 sy’n sôn am gariad ac sy’n cael ei ddarllen yn aml mewn priodasau, a phennod 15 sy’n sôn am yr Atgyfodiad ac yn cael ei darllen mewn angladdau.

Catrin Roberts