2 Thesaloniaid

Pwy ydy’r awdur?
Paul. Mae mwy o’i hanes yn “Pwy? Pryd? Pam?” – Rhufeiniaid. Mae rhai ysgolheigion yn gweld fod y llythyr yma yn fwy ffurfiol na’r llythyr cyntaf at y Thesaloniaid. Ond edrychwch ar adnod olaf y llythyr. Yn nyddiau Paul roedd pobl yn defnyddio amanuensis (ysgrifennydd) i ysgrifennu llythyrau drostyn nhw. Yma mae Paul yn ysgrifennu diwedd y llythyr yn ei lawysgrifen ei hun, er mwyn profi mai fo ydy’r awdur.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae ysgolheigion yn meddwl fod y llythyr hwn wedi ei ysgrifennu gan Paul o Gorinth tua chwe mis wedi’r llythyr cyntaf at y Thesaloniaid, efallai, tua 51. O.C.

Pam?
Thesalonica oedd prifddinas talaith Macedonia (sef Gogledd Gwlad Groeg), ac roedd ar groesffordd fasnachol brysur. Yn Actau 17 mae hanes Paul yn cychwyn eglwys yno yn ystod ei ail daith genhadol. Roedd rhai Iddewon yn yr eglwys, ond roedd y mwyafrif yn perthyn i genhedloedd eraill. Mae braslun o’r hanes i’w gael yn “Pwy? Pryd? Pam?” 1 Thesaloniaid.
Ychydig wythnosau ar ôl i Timotheus a Silas fynd â’r llythyr cyntaf i’r eglwys yn Thesalonica, clywodd Paul fwy o newyddion am yr eglwys. Roedd y Cristnogion newydd yn dal yn llawn cynnwrf am eu bod yn credu fod diwedd y byd ar fin digwydd, a bod Iesu ar fin dod yn ôl. Roedden nhw hefyd wedi camddeall beth roedd Paul wedi ei ddweud am hyn i gyd yn ei lythyr cyntaf, felly yn ei ail lythyr mae o’n egluro bod yn rhaid i rai pethau ddigwydd cyn i Iesu ddod yn ôl (pennod 2). Mae o hefyd yn dal ati i annog y Cristnogion i sefyll yn gryf er eu bod nhw’n wynebu erledigaeth (pennod 1), ac mae’n dweud wrthyn nhw bod angen i bawb weithio ac ennill bywoliaeth.

Catrin Roberts