Colosiaid

Pwy ydy’r awdur?
Paul. Os ydych chi am wybod mwy o hanes Paul, edrychwch ar “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae arbenigwyr yn awgrymu tua 60 O.C. pan oedd Paul yn cael ei gadw dan warchodaeth tŷ yn Rhufain (Actau 28).

Pam?
Dinas fach oedd Colosa (yng ngwlad Twrci heddiw), tua 100 milltir o Effesus. Pan oedd Paul yn Effesus yn pregethu’r Efengyl, daeth pobl o ddinas Colosa i wrando arno fo – Epaffras oedd un ohonyn nhw (Col 1:7,8) a Philemon oedd un arall. Ar ôl dod i gredu, aethon nhw’n ôl i Golosai a ffurfio eglwys yno. Doedd Paul ddim wedi ymweld â’r eglwys ifanc yma, ond clywodd o gan Epaffras fod yr eglwys yn wynebu problemau. Y brif broblem oedd syncretiaeth – pobl yn trin gwahanol athrawiaethau a chrefyddau ar yr un lefel â Christnogaeth. Mae’n debyg fod yr eglwys yn Colosa yn gymysgedd o Roegiaid, Iddewon a Phrygiaid. Roedd ganddyn nhw i gyd eu traddodiadau, diwylliant ac arferion crefyddol eu hunain, felly mae’n hawdd gweld sut cododd y broblem. Roedd lobsgows o bethau yn cael ei ddysgu yn yr eglwys e.e.
• rhoi lle i addoli pwerau’r byd ysbrydol ac angylion
• rhoi lle pwysig i gadw defodau crefyddol allanol
• athrawon yn dweud eu bod nhw, a neb arall, wedi derbyn gwybodaeth arbennig
• bod y corff a phethau materol yn ddrwg.
Yn y ddwy bennod gyntaf mae Paul yn egluro beth ydy dysgeidiaeth sylfaenol yr Efengyl er mwyn i’r Colosiaid wybod beth sy’n iawn a beth sy ddim yn iawn yn yr eglwys Gristnogol. Mae o’n rhoi cyngor ymarferol i’r eglwys ar sut i fyw fel Cristnogion, ac yn rhoi darlun gwych o Iesu, ei waith, ei achubiaeth, a sut mae o’n cymodi pobl hefo Duw ac hefo’i gilydd, ac wedi gorchfygu pob pŵer ysbrydol.

Catrin Roberts