Datguddiad

Pwy ydy’r awdur?
Mae’r awdur yn cyflwyno’i hun yn syml fel Ioan. Mae o’n
• Gristion Iddewig
• yn henadur oedd pawb yn ei adnabod
• yn berson hefo dylanwad
• wedi cael ei erlid achos ei ffydd
• wedi cael ei anfon i ynys Patmos fel cosb.
Mae llawer yn credu mai Ioan, disgybl annwyl Iesu ydy’r awdur, ond mae rhai yn amau hyn oherwydd y math o iaith sydd yn cael ei ddefnyddio yn y llyfr. Os ydych chi am wybod mwy am Ioan, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Efengyl Ioan.

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae ysgolheigion yn awgrymu tua 90 – 95 O.C., neu ychydig yn gynharach.

Pam?
Dechreuodd yr Ymerodraeth Rufeinig erlid Cristnogion mewn ffordd greulon iawn tua diwedd y ganrif gyntaf. Cafodd rhai eu lladd, ac eraill eu rhoi yn y carchar. Roedd posibilrwydd y byddai’r Rhufeiniaid yn gorfodi pawb, gan gynnwys y Cristnogion, i addoli’r Ymerawdwr Rhufeinig fel duw, neu gael eu cosbi’n llym. Ar ben hyn, roedd rhai Cristnogion wedi dechrau digalonni oherwydd roedden nhw wedi byw yn y gobaith sicr bod Iesu yn mynd i ddod yn ôl i’r ddaear yn fuan. Erbyn 90au’r ganrif gyntaf, roedden nhw wedi dechrau blino aros i hyn digwydd.
Felly, yn llyfr y Datguddiad cawn ddisgrifiad manwl o weledigaeth gafodd Ioan i helpu i’r eglwysi sylweddoli
• fod Duw yn rheoli hanes
• bod Iesu yn mynd i ddod yn ôl i farnu’r ddaear
• bod dyfodol gwych yn disgwyl pob Cristion ffyddlon.
Mae’r llyfr yn gwneud dau beth. Mae’n disgrifio dyddiau Ioan, ond hefyd yn sôn am beth fydd yn digwydd yn y “dyddiau olaf” cyn i ddiwedd y byd ddod. Fel oedd yr eglwys yn amser Ioan yn wynebu erledigaeth, byddai’r eglwys yn dioddef yn y frwydr derfynol rhwng da a drwg, rhwng Iesu a Satan ar ddiwedd y byd. Ond mae’n pwysleisio mai Duw fydd yn ennill y frwydr, gyda Iesu’n dod i deyrnasu am byth, a bydd Duw yn creu nefoedd a daear newydd. Felly mae’r llyfr nid yn unig yn help i Gristnogion y ganrif gyntaf, ond hefyd i Gristnogion pob oes i ddal ati i fyw fel Cristnogion, hyd yn oed mewn amser caled. Mae Ioan yn ysgrifennu i helpu eglwysi mewn sefyllfa real iawn, ac mae’r llythyrau at y saith eglwys ar ddechrau’r Datguddiad wedi, ac yn helpu eglwysi ym mhob cyfnod.
Mae’r llyfr yn anodd i’w ddarllen oherwydd yr holl symbolau sy’n cael eu defnyddio – bwystfilod, sêr, ceffylau ac ati. Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn deall y symbolau hyn, ond doedden nhw’n golygu dim i’r awdurdodau Rhufeinig oedd am erlid y Cristnogion. Mae’r math yma o ysgrifennu, sy’n disgrifio beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y byd, yn cael ei alw yn ‘lenyddiaeth apocalyptaidd’.

Catrin Roberts