Josua

Pwy?

Mae traddodiad Iddewig yn enwi Josua ei hun fel awdur y llyfr (ar wahân i’r adran olaf sy’n disgrifio marwolaeth a chladdu Josua), ond mae’r llyfr mor hen mae’n amhosib i ni wybod yn iawn pwy oedd yr awdur.  Mae’r disgrifiadau a’r wybodaeth o fewn y llyfr yn fanwl, ac mae gwaith ymchwil archeolegol wedi cadarnhau llawer  o’r cynnwys.

Cafodd Josua ei eni yn yr Aifft pan oedd yr Israeliaid yn gaeth yno, ac fe ddaeth yn brif gynorthwywr Moses yn ystod yr exodus.  Roedd yn un o’r 12 ysbïwr gafodd eu hanfon gan Moses i gasglu gwybodaeth am wlad Canaan. O’r deuddeg ysbïwr, dim ond Josua a Caleb oedd â digon o ffydd a dewrder i ddweud y dylai’r bobl symud ymlaen a mentro i mewn i’r wlad newydd – ac oherwydd hynny fe gafodd y ddau oroesi’r 40 mlynedd dreuliodd yr Israeliaid yn crwydro’r anialwch.  Wedi i Moses farw, cafodd Josua ei ddewis yn arweinydd,  gyda Duw yn rhoi’r addewid hwn iddo, "Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn a panicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!” Josua 1.9

 

Pryd?

Mae’n amhosib i ni ddweud pryd cafodd y llyfr ei ysgrifennu. Mae rhai yn barod i dderbyn bod Josua wedi ysgrifennu’r llyfr tua 1400 cyn Crist, ond mae eraill yn credu mewn rhoi dyddiad llawer mwy diweddar, efallai yn ystod cyfnod cynnar y frenhiniaeth.

 

Pam?

Mae’r llyfr yn dweud hanes y cyfnod o farwolaeth Moses hyd at farwolaeth Josua. Cawn weld Josua yn arwain yr Israeliaid i wneud addewid Duw am gartref a gwlad newydd yn realiti. Fe wnaethon nhw sefydlu eu hunain yng ngwlad Canaan trwy nerth Duw. 

Ystyr Josua ydy "Mae’r Arglwydd yn achub", neu "Mae’r Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth", a dyna wnaeth Duw wrth helpu’r Israeliaid i goncro pob rhwystr a meddiannu eu gwlad newydd. Fersiwn o’r enw Josua ydy Iesu, a does dim enghraifft mwy o Dduw yn achub na’r hyn wnaeth e trwy Iesu Grist a’r groes. Wrth drystio yn Josua fe aeth pobl Dduw i wlad newydd, llawn o bethau da, ac wrth i ni ymddiried yn Iesu Grist fe gawn ni fywyd newydd.

0
tudalen blaen: 
0