Philipiaid

Pwy ydy’r awdur?
Paul, yr Iddew o Darsus wnaeth erlid yr Eglwys Gristnogol cyn cael tröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus. Cafodd o’r gwaith o fynd at bobl oedd ddim yn Iddewon (cenedl-ddynion) i rannu Efengyl Crist. Aeth ar dair taith genhadol lwyddiannus a sefydlu eglwysi mewn llawer o drefi a dinasoedd. Dioddefodd garchar ac erledigeth. Mae’n debyg iddo gael ei ladd yn Rhufain tua 67 O.C. adeg erledigaeth yr Ymerawdwr Rhufeinig Nero. Os am wybod mwy am Paul, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae’n amlwg fod Paul wedi ei garcharu pan ysgrifennodd y llythyr hwn. Mae rhai yn meddwl fod Paul wedi cael ei garcharu yn Effesus (tua 53-55 O.C.) ond does dim tystiolaeth uniongyrchol o hyn yn y Testament Newydd. Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd yn Cesarea, tua 57-59 O.C. hefyd. Ond mae’r mwyafrif o ysgolheigion yn credu mai o Rufain y cafodd y llythyr hwn ei ysgrifennu tua 61 O.C. pan oedd Paul dan arestiad tŷ yn disgwyl sefyll ei brawf o flaen Cesar (Actau 28)

Pam?
Roedd Philipi yn ddinas bwysig ac yn drefedigaeth Rufeinig yn nhalaith Rufeinig Macedonia (Gogledd Groeg heddiw). Roedd pobl y dre yn ddinasyddion Rhufeinig ac roedd llawer o filwyr Rhufeinig yn byw yno. Daeth Paul yno tua 50 O.C. ar ei ail daith genhadol, a sefydlu eglwys yno. Aeth i’r ddinas yn dilyn gweledigaeth (Actau 16:9,10) pan welodd ddyn yn gofyn iddo fo fynd draw i Facedonia. Un o’r rhai cyntaf yn Philipi i wrando arno yn sôn am Iesu oedd Lydia, gwraig fusnes o Thyatira oedd yn gwerthu defnydd porffor. Cafodd Paul a Silas eu carcharu yno, ar ôl i Paul fwrw ysbryd dieflig allan o’r gaethferch oedd yn ennill arian mawr i’r rhai oedd biau hi drwy ddweud ffortiwn. Yna daeth swyddog y carchar a’i deulu i gredu’r Efengyl wedi i ddaeargryn agor drysau’r carchar.
Mae nifer o resymau pam ysgrifennodd Paul y llythyr hwn at eglwys Philipi.
• Er mwyn diolch iddyn nhw am anrheg gafodd o ganddyn nhw.
• Er mwyn cyflwyno Epaffroditus a Timotheus i’r eglwys.
• Er mwyn rhoi gwybod i’r Philipiaid sut oedd o wedi iddo gael ei garcharu, ac er mwyn annog y Cristnogion i wynebu dioddefaint yn ddewr. Roedd Paul yn barod i ddioddef unrhywbeth er mwyn i’r newyddion da am Iesu fynd ar led.
• Er mwyn rhybuddio’r eglwys am y perygl o orfodi credinwyr newydd i ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig a’i defodau.

Yn y llythyr mae Paul yn pwysleisio bod bywyd y Cristion yn fywyd o lawenydd. Mae’r gair llawen i’w weld yn aml yn y llythyr. Mae pennod 2 adnod 5 – 11 yn rhoi darlun clir i ni o’r hyn roedd Paul yn ei feddwl a’i ddysgu am berson Iesu Grist.

Catrin Roberts