Salmau
Pwy?
Mae rhai pobl yn galw'r Salmau yn Salmau Dafydd, ac fe wyddon ni fod y Brenin Dafydd (y bugail ymladdodd Goliath y cawr) yn chwarae’r delyn ac yn cyfansoddi caneuon. Mae Dafydd yn cael ei nodi fel awdur 73 o’r salmau, ond mae’r rhagarweiniad sydd ar ddechrau dwy ran o dair o’r salmau unigol yn nodi awduron eraill hefyd: Meibion Cora; Asaff; Solomon; Ethan a Moses.
Pryd?
Cafodd y Salmau eu hysgrifennu dros ganrifoedd. Mae arbenigwyr yn credu eu bod nhw wedi cael eu casglu at ei gilydd yn eu ffurf bresennol ar ôl diwedd y gaethglud tua 537 cyn Crist.
Pam?
- Cerddi ydy’r Salmau, cerddi roedd yr Iddewon yn eu canu.
- Mae 150 o salmau yn y llyfr, ac mae llawer yn galw’r casgliad yn Llyfr Emynau’r Hen Destament, neu’n Llyfr Emynau’r Iddewon. Yr hen enw Hebraeg ar y llyfr ydy Llyfr Moliant, ac mae’r cyfieithiad Groeg o’r Hen Destament yn defnyddio’r teitl Psalmos – cân sy’n cael ei chanu i gyfeiliant offeryn llinynnol. Dyma lyfr gweddi’r Iddew.
- Mae’r salmau yn amrywio yn fawr o ran testun – salmau o fawl neu o ddiolchgarwch i Dduw, salmau gweddi, salmau yn sôn am y brenin, salmau sy’n dweud sori wrth Dduw, salmau sy’n gofyn i Dduw am help, salmau sy’n gofyn i Dduw ddinistrio gelyn.
- Ar ddechrau llawer o’r salmau mae rhagarweiniad byr. Weithiau mae’r rhagarweiniad yn cynnwys cyfeiriad at awdur, neu’n egluro pam gafodd y salm ei hysgrifennu. Tro arall mae’n rhoi cyfarwyddiadau yn delio gyda cherddorion, offerynnau a sut i’w canu . Dydyn ni ddim yn gwybod beth ydy ystyr rhai o’r termau a’r cyfarwyddiadau erbyn hyn.
- Mae’r Salmau yn cael eu trefnu mewn 5 llyfr.
- Trwy’r Salmau rydyn ni’n gweld Duw a’i berthynas gyda’r greadigaeth, a phobl. Maen nhw’n disgrifio Duw fel Duw nerthol, ond trugarog, un sy’n cadw ei addewidion ac yn gofalu am ei bobl. Mae’r Salmau hefyd yn ddarlun o bobl sydd mewn perthynas gyda Duw – rydyn ni’n gweld ffydd ac amheuon, llwyddiant a methiannau, pobl yn dweud sori, a phobl sydd eisiau dod i adnabod Duw yn well a chael perthynas agosach gydag e. Mae awduron y Salmau yn dangos parch mawr at Air Duw ac at ddeddfau Duw. Mae ufuddhau i Dduw yn arwain at lawenydd a diogelwch.
- Mae’n bwysig i ni gofio y byddai Iesu Grist yn defnyddio’r Salmau yn y synagog ac yn y deml. Geiriau o’r Salmau oedd ar ei wefusau ar y groes wrth iddo farw.
- Roedd yr Eglwys Gristnogol gynnar yn defnyddio’r salmau yn ei haddoliad ac mae’r Salmau yn rhan bwysig o addoliad yr Eglwys heddiw. Maen nhw’ n ardderchog ar gyfer addoliad cyhoeddus, ond maen nhw’n help mawr i ni fel unigolion yn ein amser tawel gyda Duw hefyd. Pan dyn ni am siarad gyda Duw, a dim yn gallu dod o hyd i eiriau, fe allwn ni ddefnyddio geiriau’r Salmau. Mae un peth yn glir wrth ddarllen y Salmau – mae’r awduron yn agor eu calon i Dduw, ac yn sicr bod Duw’n gwrando arnyn nhw.
1
tudalen blaen:
0